GRUFF RHYS lyrics : "Rhagluniaeth Ysgafn"
ysgafn a’r awel fwyn A phan ddaw’r amser i gael fy marnu O! Cym i ystyriaeth
fy nghyfraniad i’r achosion da, Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo, Y
cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr
areithio, Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef, Y rhegi cyhoeddus, Y
lluniau anweddus, Fy nghabledd o flaen y groes, Yr hunan-dosturi, Y cwrw a’r
miri, Fy ofer-ymffrostio, Tra’n rhostio yn y gwledydd poeth. A phan ddaw’r
cyfweliad, Erfynaf am fynediad, Drwy lidiart y nefoedd I’r cyfoeth ar yr ochr
draw.A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau, Fy holl rinweddau, Sy’n
rhifo ar un llaw. Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am: Ragluniaeth ysgafn,
Rhagluniaeth ysgafn Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw
Submit Corrections