A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z #

CHARLOTTE CHURCH lyrics : "Elegie"

Mae hiraeth yn y mor a'r mynydd maith
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn can
Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith

Yn oriau'r machlud ac yn fflamau'r tan
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn
A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt

Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon, atgof atgof gynt


Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gan y ceiliog yn y glwyd gerlaw:
Yn deffro caniad ar ol caniad clir

O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef
A mwynder trist y pelter yn ei lef

Submit Corrections